Nicola Sturgeon
Mae Nicola Sturgeon wedi dweud bod cael ei phenodi yn Brif Weinidog benywaidd cyntaf yr Alban “yn fraint ac yn anrhydedd.”

Mae arweinydd newydd plaid genedlaethol yr SNP yn olynu Alex Salmond, oedd wedi cyhoeddi ei fod am ymddiswyddo yn dilyn canlyniad siomedig yn y refferendwm annibyniaeth ym mis Medi.

Ymddiswyddodd Salmond yn swyddogol ddoe, gan ddweud y byddai Nicola Sturgeon – ei ddirprwy am saith mlynedd – yn olynydd “rhagorol”.

Daeth Sturgeon yn arweinydd ei phlaid yn swyddogol yng nghynhadledd y blaid yn Perth dros y penwythnos.

Dywedodd Nicola Sturgeon, 44, ei bod yn rhoi addewid i fod yn Brif Weinidog i bawb yn yr Alban “waeth beth yw eich tueddiadau gwleidyddol neu eich barn, fy swydd yw eich gwasanaethu chi. Ac rwy’n addo y byddaf yn gwneud hynny i orau fy ngallu.”

Ychwanegodd: “Mae dod yn Brif Weinidog yn arbennig ac yn gyfrifoldeb mawr. Mae bod yn Brif Weinidog benywaidd cyntaf hyd yn oed yn fwy o gyfrifoldeb.

“Rwy’n gobeithio y bydd fy mhenodiad yn Brif Weinidog yn helpu i agor y drws i gyfleoedd ehangach i ferched eraill.”

Wrth roi teyrnged i’w rhagflaenydd, dywedodd bod gan Alex Salmond “gyfraniad mawr” i’w wneud i wleidyddiaeth yn yr Alban o hyd.

Mae Alex Salmond yn parhau’n Aelod Seneddol tros Ddwyrain Sir Aberdeen.

Bydd Nicola Sturgeon yn tyngu llw yng Nghaeredin yfory.