Dim ond cynnydd o £1 bob wythnos fu yng nghyflogau gweithwyr llawn amser yn ystod y flwyddyn o Ebrill 2013 i 2014 – y cynnydd lleiaf ers 1997, yn ôl ffigyrau newydd.
Roedd cynnydd o tua 1.4% bob blwyddyn rhwng 2009 a 2014, ond mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos cynnydd o 0.1%.
I gyd-fynd a ffigyrau chwyddiant, mae cyflogau wythnosol wedi disgyn o 1.6%, sy’n dilyn yr un patrwm ers y dirwasgiad ac yn cyrraedd yr un lefel a welwyd ar ddechrau 2000.
Er hyn, mae’r bwlch rhwng cyflogau dynion a merched wedi gostwng o 0.6% i 10%, sef y ffigwr isaf ers i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddechrau cofnodion yn 1997.
Roedd 236,000 o bobol yn cael eu talu llai na’r isafswm cyflog ym mis Ebrill, sy’n 0.9% o holl swyddi Prydain.