Profi samplau gwaed am Ebola
Mae claf mewn ysbyty yn Henffordd yn cael profion am Ebola, meddai swyddogion iechyd.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE) bod y dyn yn cael profion “fel rhagofal” ac nad ydyn nhw’n disgwyl i’r profion ddangos ei fod wedi cael ei heintio.

Dywedodd llefarydd bod y dyn wedi cael symptomau tebyg i Ebola a bod ganddo hanes o deithio i orllewin Affrica, lle mae mwy na 5,000 o bobl wedi marw o’r firws.

Mae’r dyn yn cael triniaeth yn Ysbyty Sir Henffordd.