Mae gan Lywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd “wersi allweddol” i’w dysgu o ganfyddiadau adroddiad sydd wedi ystyried boddhad cleifion canser Cymru, yn ôl elusen flaenllaw.

Er bod elusen ganser Macmillan yn croesawu adroddiad gan ymchwilwyr o Brifysgol Southampton, mae’n dweud bod angen i’r Llywodraeth, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru gydweithio i weithredu ymrwymiadau polisi.

Ar y cyfan, mae’r adroddiad yn dangos bod cleifion canser yn fodlon gyda’r llawdriniaethau, cemotherapi a radiotherapi maen nhw’n ei dderbyn. Roedd canmoliaeth i nyrsys arbenigol hefyd.

Ond roedd pryderon ynghylch y ffordd y cafodd symptomau eu hadnabod ar y dechrau, prinder staff a dim digon o wybodaeth a chymorth.

‘Llais y cleifion’

Mae arbenigwyr o Brifysgol Southampton wedi dadansoddi sylwadau a wnaed gan 4,672 o gleifion am eu triniaeth a’u gofal gyda’r GIG yng Nghymru.

Meddai Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Macmillan: “Dyma’r dadansoddiad manwl cyntaf o sylwadau gan gleifion canser am eu triniaeth a’u gofal ac mae’n mynegi llais y cleifion.

“Mae’n rhoi darlun grymus a dealltwriaeth gyfoethocach inni am brofiad cleifion o ofal canser yng Nghymru.

“Rydyn ni’n gwybod bod adnabod symptomau canser yn gynnar yn hanfodol i lwyddiant y driniaeth.”

Gweithredu

Ychwanegodd Susan Morris bod angen i sefydliadau Cymreig “weithredu nawr” i ddarparu’r ymrwymiadau sydd wedi cael eu rhoi ar bapur.

“Mae angen gweithredu nawr i sicrhau bod y llywodraeth, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru’n cydweithio i droi ymrwymiadau polisi yn realiti i gleifion canser,” meddai.

‘Ysgogi gwelliant’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn cadarnhau bod profiadau rhan fwyaf o bobol yn un da iawn. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth gyda Macmillan i barhau i ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau. ”