Peilon trydan
Bydd cyfnod ymgynghori olaf y Grid Cenedlaethol yn dechrau heddiw cyn iddyn nhw benderfynu ar lwybr peilonau trydan trwy Bowys.
Bydd yn cynnwys 23 diwrnod o ymgynghori mewn 13 o wahanol leoliadau wrth iddyn nhw ddangos manylion llwybr ar gyfer llinell peilon o Gefn Coch i Lower Frankton yn Swydd Amwythig – fydd yn rhedeg drwy Ddyffryn Efyrnwy.
Bydd y llinell yn cael ei ddefnyddio i gymryd pŵer o ffermydd gwynt arfaethedig i’r Grid Cenedlaethol.
Mae’r Grid Cenedlaethol eisoes wedi dweud y byddai’n claddu wyth milltir o beilonau trwy Ddyffryn Efyrnwy, ac yn ystyried y defnydd o beilonau llai ar gyfer rhannau eraill o’r llwybr.
Mae nifer o bobl leol wedi mynegi gwrthwynebiad chwyrn i’r peilonau dros y pedair blynedd diwethaf a mwy na 7,400 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn y cynigion.
Yn y cyfnod ymgynghoriad blaenorol, fe wnaeth y Grid Cenedlaethol gyhoeddi llwybr drafft drwy Bowys a Swydd Amwythig. Ers hynny, maen nhw wedi bod yn datblygu cynllun arfaethedig ar gyfer y cysylltiad.
Meddai’r Grid Cenedlaethol ei bod hi’n debygol mai hwn fydd yr ymgynghoriad olaf ar y cysylltiad cyfan cyn iddyn nhw gyflwyno eu ceisiadau am ganiatâd i adeiladu’r peilonau.
Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau ymgynghori ar gael yma: www.nationalgrid/midwalesconnetion.com.