Mae’r cyn-Brif Weinidog Toriaidd, John Major wedi ymosod ar blaid Ukip, gan ei disgrifio o fod yn “blaid hollol annifyr”.
Fe ddaeth ei ymosodiad ar raglen Andrew Marr ar BBC1 heddiw, ar drothwy is-etholiad y mae disgwyl i blaid Nigel Farage ei hennill yn Rochester a Strood ddydd Iau nesa’.
“Mae Ukip yn hynod o amhrydeinig yn y modd y mae’n mynd o gwmpas pethau,” meddai John Major. “Dydi pobol Prydain ddim wedi arfer meddwl am bethau yn ffordd Ukip, na mynegi barn yn y modd ymosodol.
“Dw i’n meddwl fod pobol yn cefnogi Ukip am un rheswm yn unig, sef eu bod nhw’n teimlo’n rhwystredig ynglyn a’r economi.
“Ond fe fydd y rhwystredigaeth honno’n cilio wrth i’r economi gryfhau eto…
“Yn y cyfamser, mae holl ymarweddiad Ukip yn amhrydeinig iawn. Maen nhw yn gwrthwynebu pob peth. Maen nhw’n wrthwynebus i wleidyddiaeth, maen nhw’n gwrthwynebu tramorwyr, maen nhw’n wrthrynebus i fewnfudwyr… ac maen nhw’n gwrthwynebu rhoi arian i helpu gwledydd tramor.
“Dw i ddim yn gwybod be’n union mae Ukip o’i blaid,” meddai John Major wedyn. “Plaid negyddol iawn ydi hi, ac nid dyna’r ffordd o ffurfio polisiau nac ennill seddi yn y Senedd… ac yn sicr nid dyna’r ffordd o redeg gwlad.”