Mae llywodraeth yr Iseldiroedd wedi gwahardd ffowls a wyau rhag cael eu symud na’u gwerthu o fferm ieir yn y wlad, wedi i brofion gadarnhau achosion o ffliw adar yno.

Mae Gweinyddiaeth Materion Economaidd y wlad heddiw wedi cadarnhau fod y ffliw – sy’n farwol i adar ac sy’n bosib i ddynion a merched ei ddal hefyd – yn bresennol ar y fferm, ond nad ydyw profion wedi gallu nodi pa straen o’r ffliw ydi o.

Fe fydd pob un o’r 150,000 o ieir ar y fferm yn Hekendorp, 40 milltir i’r de o Amsterdam, yn cael eu difa.

Dyw hi ddim yn glir eto sut y daeth y ffliw i’r fferm.