Mae cleifion wedi cael eu rhybuddio i gadw draw o adran ddamweiniau ac argyfwng ysbyty yn ne Lloegr, oni bai eu bod nhw’n ddifrifol wael neu bod eu bywyd mewn peryg.

Fe ddaeth y cyhoeddiad i gleifion gogledd-ddwyrain Essex, wedi i Ysbyty Cyffredinol Colchester gydnabod fod yno “argyfwng mawr”.

Ddydd Mercher yr wythnos hon, roedd y corff rheoli ansawdd gofal, y CQC, wedi bod ar ymweliad yno ac wedi codi nifer o bryderon ynglyn a safonau. Roedd arolygwyr y corff hefyd yn dweud fod staff yr ysbyty’n ei chael hi’n anodd ymdopi gyda “galw na fu mo’i debyg o’r blaen” am driniaeth a sylw.

“Dim ond ar gyfer achosion sydd angen sylw brys, pethau fel colli gwaed, esgyrn wedi torri, poen yn y frest, trafferth wrth anadlu, gor-ddosio neu wenwyno y mae’r adran ddamweiniau a gofal brys,” meddai llefarydd ar ran yr ysbyty.

“Fe fyddai cofio hyn yn help mawr wrth geisio lleihau’r pwysau ar staff ein hadran ddamweiniau, ac er mwyn lleihau’r amser aros i bob math o glaf.”