Cymru 17 – 13 Fiji

Mewn gêm roedd disgwyl i Gymru ei churo’n gyfforddus, o drwch blewin yn unig yr oedd tîm Warren Gatland yn fuddugol yn Stadiwm y Mileniwm heddiw.

Er y newidiadau i’r tîm oedd yn anlwcus i golli’n erbyn Awstralia wythnos yn ôl, roedd disgwyl i Gymru fod yn rhy gryf i Fiji, ac yn sicr fe gynyddodd y disgwyliadau wrth i’r ymwelwyr golli chwaraewr i gerdyn coch wedi deuddeg munud o’r ail hanner.

Dechreuodd y gêm yn addawol i’r Cymry.

Sgoriodd George North y cais cyntaf yn y gornel wedi chwe munud yn dilyn symudiad da yn y canol rhwng Priestland, Roberts a Scott Williams.

Ychwanegodd yr asgellwr arall, Alex Cuthbert, ail yn ei gornel yntau wedi 20 munud wedi i’r blaenwyr fynd trwy’r cymalau’n amyneddgar yng nghysgod pyst yr ymwelwyr.

Deffrodd yr ail gais Fiji a nhw sgoriodd y chwe phwynt nesaf diolch i droed Nadolo.

Roedd Cymru ar y droed ôl am gyfnod wrth i symudiadau fynd o chwith a’r ymwelwyr yn gwrthymosod yn beryglus, a’r tîm cartref yn lwcus i beidio ag ildio cais ar un pwynt.

Serch hynny, Cymru orfennodd yr hanner gryfa’ gyda chais cosb i’r blaenwyr bedair munud cyn yr hanner wrth i’r Fijiiaid dynnu’r sgarmes i’r llawr wedi llinell yn y gornel dde.

Ail Hanner

Roedd prop Fiji, Campese Ma’afu, wedi gweld cerdyn felen toc cyn yr hanner, ond method Cymru â manteisio ar y dyn o fantais ar ddechrau’r ail hanner.

Fe ddylai Cymru fod wedi cael cais wedi 52 munud – yr ail chwarae’n dangos Dan Lydiate yn tirio o sgarmes drefnus, ond penderfynodd y dyfarnwr i roi cic gosb yn unig i Gymru.

Aeth Cymru am y linell eto, ac arweiniodd trosedd gan Campese Ma’afu, oedd newydd ddychwelyd o’r cell calio, at ail gerdyn melyn oedd yn golygu y byddai’r prop yn cael cawod gynnar.

Byddai rhywun wedi disgwyl i Gymru reoli’r gêm gyda dyn o fantais, a dechrau tynnu’n glir…ond nid felly y bu.

Aeth y gêm i fod yn un flêr wrth i Gymru geisio rhedeg o bobman, gan chwarae i ddwylo’r ymwelwyr oedd yn dal i daclo’n gadarn.

Roedd Cymru’n collir bêl yn gyson yn ardal y dacl ac yn methu’n glir a chael gafael gadarn ar y gêm.

Roedd pawb yn meddwl bod Cymru, a Taulupe Faletau wedi sgorio wedi 71 munud wedi rhediad gwych gan Liam Williams, ond wedi ail-chwarae sawl gwaith penderfynodd y dyfarnwr bod Williams wedi gollwng y bêl wrth gael ei daclo yn ystod y sumudiad.

Er i Gymru barhau i ymosod, Fiji oedd i gael y gair olaf.

Wrth i’r tîm cartref wrth-ymosod gan geisio ymestyn y sgôr, rhyng-gipiwyd y bêl gan y canolwrr Nadolo a rhuthrodd yntau yr 80 metr i groesi, gan drosi ei gais ei hun.

Buddugoliaeth i’r Cymry felly, ond go brin y byddai’r tîm hyfforddi’n fodlon â’r perfformiad wrth baratoi i herio Seland Newydd wythnos nesaf.