Chris Coleman
Mae Chris Coleman wedi cyfaddef ei fod yn rheolwr “nerfus” pan ddechreuodd ei swydd gyda thîm rhyngwladol Cymru – ond ei fod yn teimlo llawn hyder bellach.
Dwy flynedd Gwlad Belg oedd y gwrthwynebwyr yng ngêm gystadleuol gyntaf Coleman, gyda Chymru’n colli 2-0 ar ddechrau ymgyrch ragbrofol siomedig arall.
Ond wrth i’r tîm baratoi i herio’r un gwrthwynebwyr ym Mrwsel dydd Sul, mae rheolwr Cymru’n mynnu ei fod ef a’i dîm wedi trawsnewid.
Teimlad gwahanol
Flwyddyn yn ôl, gydag ymgyrch ragbrofol siomedig Cwpan y Byd yn dirwyn i ben, roedd llawer o gefnogwyr yn galw ar Coleman i gael y sac.
Ond ers mis Hydref 2013 dim ond un gêm o’u wyth diwethaf mae Cymru wedi colli.
Ac ar drothwy her fawr arall yng Ngwlad Belg, mae Coleman yn teimlo tro ar fyd.
“Roeddwn i’n nerfus cyn y gêm Belg gyntaf yna y tro diwethaf achos doedden ni ddim yn gwybod beth i ddisgwyl,” meddai Coleman.
“Roeddwn i wedi chwarae pêl-droed rhyngwladol a rheoli tîm pêl-droed ond doeddwn i erioed wedi rheoli tîm rhyngwladol.
“Fi wastad rhywfaint yn nerfus cyn gemau ond roeddwn i wir yn bryd hynny. Honno oedd y gêm gyntaf, roedden ni wedi colli cwpl o gemau cyfeillgar, roedd angen canlyniad positif a doeddwn i ddim wedi bod yn y sefyllfa o’r blaen.
“Ond mae teimlad gwahanol o gwmpas y gêm yma.”
Dau dîm cryf
Am yr ail waith yn unig ers 2012 fe fydd Coleman yn medru dewis Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen yn yr un tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg.
Fe fydd angen iddyn nhw i gyd fod yn tanio os yw Cymru am herio tîm sydd yn cynnwys sêr fel Eden Hazard, Thibaut Courtois, Romelu Lukaku a Christian Benteke.
A dyw bod yn gystadleuol ddim yn ddigon da, yn ôl Coleman – mae’n rhaid cipio pwyntiau.
“Mae’n rhaid i ni fynd yno, heb fod yn orhyderus, ond taflu’n pwysau achos mae gyda ni rywbeth hefyd,” meddai Coleman.
“Allwn ni ddim mynd yna’n meddwl ei fod e’n iawn jyst i gystadlu a pheidio cael unrhyw beth, achos dyw e ddim.
“Mae angen i ni gyrraedd twrnament ac i wneud hynny mae angen pwyntiau. Mae Gwlad Belg yn dîm arall yn ein grŵp felly rydyn ni eisiau cymryd pwyntiau oddi arnyn nhw, gartref eu oddi cartref, dyw e ddim ots.
“Roedd y pwysau arnom ni yn y garfan ddiwethaf ac fe wnaethon ni’n dda, fe gawson ni bedwar pwynt ac mae’n rhaid cynnal y momentwm yna.
“Tro yma does neb yn disgwyl unrhyw beth gennym ni, ond rydw i’n disgwyl i ni gael rhywbeth achos d’yn ni ddim yn ffôl ein hunain.”