Osian Roberts yn sgwrsio â golwg360
Mae Osian Roberts wedi cyfaddef bod Cymru’n wynebu “gêm wirioneddol galed” pan fyddan nhw’n herio Gwlad Belg yn eu gêm ragbrofol Ewro 2016 dydd Sul.

Ond mae hyfforddwr Cymru, a aeth ar drip sgowtio i wylio’r gwrthwynebwyr yr wythnos hon, yn hyderus fod y tîm yn barod ar gyfer unrhyw beth fydd gan Wlad Belg i’w gynnig.

Ac fe fydd gan reolwr Cymru Chris Coleman ambell dric tactegol i fyny’i lawes hefyd, wrth i Gymru geisio aros ar frig y grŵp.

Colli unwaith mewn wyth gêm

Fe fydd Cymru’n teithio i Frwsel ar gyfer y gêm ddydd Sul yn llawn hyder ar ôl ennill dwy a chael canlyniad cyfartal yn nhair gêm agoriadol eu hymgyrch.

Dim ond unwaith mae’r tîm wedi colli mewn wyth gêm, ac mae’r rhediad da hwnnw’n cynnwys gêm gyfartal 1-1 draw yng Ngwlad Belg ym mis Hydref y llynedd.

Ac mewn cyfweliad fideo â golwg360, dywedodd Osian Roberts ei fod yn ffyddiog bod chwaraewyr Cymru yn barod i geisio cipio pwyntiau oddi ar dîm cryfa’r grŵp.

“Mae’n garfan eithriadol o gryf [gan Wlad Belg], a dyna pam maen nhw’n bedwerydd yn y byd bellach,” cyfaddefodd Osian Roberts.

“Rydan ni’n ymwybodol o’r sialens sydd o’n blaenau ni, ond yn hyderus hefyd y gallwn ni ddelio â nhw.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu defnyddio gwahanol dactegau, defnyddio’r rhai cywir ar yr amser priodol.”

Anelu am yr Ewros

Yn ôl yr hyfforddwr, mae’n bwysig bod y tîm yn cael pwyntiau allan yng Ngwlad Belg er mwyn cadw’r momentwm i fynd.

“Maen nhw [y chwaraewyr] isho gwneud yn dda yn y grŵp yma, maen nhw isho cael i dwrnament mawr 2016 yn Ffrainc – dyna ydi’r nod,” meddai Osian Roberts.

“Y cam nesaf sy’n rhaid i gymryd ydi yn erbyn Gwlad Belg. Rydan ni’n hollol ymwybodol bod genna ni gêm galed, wirioneddol galed, o’n blaenau ond mae genna ni’n rhinweddau’n hunain a ‘da ni’n hyderus y gallwn ni gael rhywbeth allan o’r gêm.”