Gleision 19–13 Scarlets

Y Gleision aeth â hi ar Barc yr Arfau nos Wener wrth i’r Scarlets ymweld â’r brifddinas yn y Cwpan LV. Gêm agos oedd hi ond gwnaeth y Gleision ddigon yn y diwedd.

Aeth y Scarlets ar y blaen wedi dim ond tri munud diolch i gic gosb Josh Lewis, ond y Gleision oedd ar y blaen erbyn hanner amser yn dilyn tair cic gosb o droed Simon Humberstone, 9-6 y sgôr.

Roedd Bois y Sosban yn ôl ar y blaen o drwch blewyn yn gynnar yn yr ail gyfnod wedi i Lewis drosi cais cyntaf y gêm gan y blaenasgellwr, Sion Bennett.

Tro blaenasgellwr y Gleision oedd hi i groesi’r gwyngalch ar yr awr wrth i gais Ellis Jenkins a throsiad Humberstone adfer mantais y tîm cartref.

Ymestynnodd Will Thomas fantais honno gyda chic gosb arall bum munud o’r diwedd a daliodd y Gleision eu gafael ar y fantais tan y diwedd.
.
Gleision
Cais:
Ellis Jenkins 60’
Trosiad: Simon Humberstone 60’
Ciciau Cosb: Simon Humberstone 11’, 29’, 37’, Will Thomas 75’
.
Scarlets
Cais:
Sion Bennett 43’
Trosiad: Josh Lewis 44’
Ciciau Cosb: Josh Lewis 3’, 39’
Cerdyn Melyn: Sion Bennett 74’