Gweilch 35–51 Dreigiau Casnewydd Gwent

Cafwyd gwledd o geisiau ar Gae’r Bragdy nos Wener wrth i’r Dreigiau sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Gweilch ym Mhen-y-Bont.

Roedd un ar ddeg cais i gyd, chwech o’r rheiny i’r Dreigiau a phump yn yr hanner cyntaf! Ac er i’r Gweilch wneud gêm ohoni yn yr ail hanner, doedd y canlyniad ddim dan fygythiad.

Dechreuodd y Dreigiau ar dân gan sefydlu 41 pwynt o fantais erbyn yr egwyl gyda phum cais hanner cyntaf.

Croesodd Ross Wardle am y cyntaf wedi naw munud cyn i’r wythwr, Lewis Evans, ychwanegu dau arall yn y chwarter agoriadol.

Ychwanegodd Cory Hill a Jonathan Evans ddau gais arall cyn yr egwyl ac ychwanegodd Rhys Jones 16 pwynt at y cyfanswm gyda’i gicio cywir, pum trosiad a dwy gic gosb i’r cefnwr.

Ychwanegodd Hill ei ail ef a chweched ei dîm yn gynnar yn yr ail gyfnod a gellid maddau i’r Dreigiau am dynnu eu troed oddi ar y sbardun wedi hynny. Ond wedi dweud hynny, go brin fod neb wedi disgwyl i’r Gweilch daro nôl mor bendant.

Croesodd y tîm cartref am dri chais mewn cyfnod o saith munud toc cyn yr awr i roi gwedd fymryn mwy parchus ar y sgôr. Hanno Dirkson, Dafydd Howells a Cai Griffiths oedd y sgoriwyr ond roedd gan y Dreigiau fantais gref o hyd, 21-48 gyda chwarter y gêm yn weddill.

Trosodd Jones dri phwynt i’r Dreigiau i dorri mymryn ar fomentwm y Gweilch wedi hynny, ac er i’r tîm cartref ychwanegu dau gais arall yn y chwarter awr olaf, doedd hynny ddim digon i fygwth y canlyniad, 35-51 y sgôr terfynol o blaid y Dreigiau
.
Gweilch
Ceisiau:
Hanno Dirkson 50’, Dafydd Howells 53’, Cai Griffiths 57’, Cais Cosb 67’, Aisea Natoga 74
Trosiadau: Sam Davies 50’, 54’, 57’, 67’, 74
.
Dreigiau
Ceisiau:
Rodd Wardle 9’, Lewis Evans 12’, 17’, Cory Hill 31’, 47’, Jonathan Evans 40’
Trosiadau: Rhys Jones 9’, 12’, 17’, 31’, 40’, 47’
Ciciau Cosb: Rhys Jones 7’, 27’, 61’
Cardiau Melyn: Dorian Jones 67’, Joe Davies 68’