Fe fydd y canolwr Aled Summerhill yn chwarae dros y Gleision am y tro cyntaf wrth iddyn nhw wneud pedwar newid i’w tîm ar gyfer y gêm yn erbyn y Scarlets yng Nghwpan LV.
Mae’r Scarlets hefyd wedi penderfynu gwneud nifer o newidiadau, gyda deg chwaraewr yn cael eu newid o’r tîm a gollodd i Northampton yn y gwpan y penwythnos diwethaf.
Yn ogystal â Summerhill mae’r asgellwr Owen Jenkins a’r clo Miles Normandale yn dod i mewn i dîm y Gleision ar gyfer y gêm ym Mharc yr Arfau BT Sport heno.
Bydd Taufa’ao Filise hefyd yn dychwelyd i’r rheng flaen, gan ddod yn gyfartal â T. Rhys Thomas wrth wneud ei 182fed ymddangosiad dros y rhanbarth.
Yr unig bum chwaraewr sydd yn cadw’u lle yn nhîm y Scarlets yw’r olwyr Steffan Hughes, Steffan Evans a Jordan Williams a’r blaenwyr Rob McCusker a Shaun Jones.
Bydd yr asgellwr Josh Adams a’r prop Ben Leung yn chwarae dros y Scarlets am y tro cyntaf.
Tîm y Gleision: Dan Fish, Tom Williams, Aled Summerhill, Garyn Smith, Owen Jenkins, Simon Humberstone, Tavis Knoyle; Thomas Davies, Rhys Williams, Taufa’ao Filise, Miles Normandale, Chris Dicomidis, Jevon Groves, Ellis Jenkins (capt), Rory Watts-Jones
Eilyddion y Gleision: Liam Belcher, Brad Thyer, Scott Andrews, Lou Reed, Ben Roach, Tomos Williams, Will Thomas, Harry Davies
Tîm y Scarlets: Steffan Evans, Josh Adams, Steffan Hughes, Iolo Evans, Jordan Williams, Josh Lewis, Rhodri Davies, Wyn Jones, Ryan Elias, Ben Leung, Shaun Jones, Phil Day, Rob McCusker (capt), Sion Bennett, Craig Price
Eilyddion y Scarlets: Darran Harris, Gethin Robinson, Javan Sebastian, Roy Osborn, Tom Phillips, Kieran Hardy, Daniel Jones, Aaron Warren