Mae’r Gweilch wedi newid saith o’r tîm a gollodd i Saracens y penwythnos diwethaf wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Dreigiau yng Nghwpan LV heno.

Pum newid sydd i dîm y Dreigiau a gollodd i’r Harlequins yn y gwpan y penwythnos diwethaf, gyda’r blaenasgellwr Lewis Evans yn dychwelyd i chwarae dros y rhanbarth am y 150fed tro.

Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar Gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont, a hynny ar ôl i’r Gweilch chwarae ‘gartref’ ar y Gnoll ym Mhontypridd yn eu gêm ddiwethaf.

Mae Hanno Dirksen yn dychwelyd i chwarae yn y canol i’r Gweilch, gyda Martin Roberts yn cymryd y gapteiniaeth a’r crys rhif naw.

Pump newid sydd ymysg blaenwyr y Gweilch, wrth i Marc Thomas, Sam Parry, Rynier Bernardo, Rob Dudley-Jones ac Ieuan Jones i gyd gael eu dewis.

I’r Dreigiau, fe fydd Rynard Landman yn dychwelyd i’r ail reng i arwain y tîm, ac mae’r prop Boris Stankovich hefyd yn dychwelyd.

Yn ogystal â hynny mae’r asgellwr Tyler Morgan a’r canolwr Ashley Smith nôl yn y pymtheg i dîm Lyn Jones.

Tîm y Gweilch: Richard Fussell, Dafydd Howells, Hanno Dirksen, Ashley Beck, Aisea Natoga, Sam Davies, Martin Roberts (capt); Marc Thomas, Sam Parry, Daniel Suter, Rory Thornton, Rynier Bernardo, Ifereimi Boladau, Rob Dudley-Jones, Ieuan Jones

Eilyddion y Gweilch: Matthew Dwyer, Gareth Thomas, Cai Griffiths, Adam Beard, Tommy Spinks, Tom Habberfield, Dan Evans, Ashley Evans

Tîm y Dreigiau: Geraint Rhys Jones, Tyler Morgan, Ross Wardle, Ashley Smith, Ashton Hewitt, Dorian Jones, Jonathan Evans; Boris Stankovich, Elliot Dee, Brok Harris, Cory Hill, Rynard Landman (capten), James Thomas, James Benjamin, Lewis Evans

Eilyddion y Dreigiau: Hugh Gustafson, Phil Price, David Young, Joe Davies, Ollie Griffiths, Luc Jones, Jason Tovey, Matthew Pewtner