Mae un o brif draffyrdd gwledydd Prydain wedi ail-agor, wedi i dwll troedfedd o ddyfnder achosi iddi gael ei chau ddoe.
Roedd yna anhrefn llwyr ddoe, wrth i draffig grynhoi ar yr M25.
Fe achoswyd y twll yn y ffordd o ganlyniad i law trwm yn ardal cyffordd 9 yn Surrey. Roedd gwaith trwsio wedi ei wneud tros nos echnos, yn llenwi’r twll efo concrit. Ond roedd y concrit hwnnw wedi methu caledu’n iawn cyn daeth y glaw.
Fe arweiniodd hynny at gau’r tair lon ar yr M25 rhwng cyffordd 10 i’r de-orllewin o Cobham a chyffordd 9 yn Leatherhead.
Fe gafodd cymudwyr eu dal yn ol, ac fe gafodd teithwyr oedd yn anelu am faes awyr Gatwick gerllaw eu dal yn yr anhrefn.