Fe fydd miloedd o gleifion yn cael cynnig profion gwaed i weld a ydyn nhw wedi cael eu heintio gan firysau a allai gynnwys HIV a Hepatitis B a C.
Daw’r penderfyniad yn sgil pryderon am safonau glendid deintydd oedd wedi trin cleifion yn Nottingham dros gyfnod o 32 mlynedd.
Dywed y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr y bydd yn cysylltu â 22,000 o gleifion er mwyn cynnal profion gwaed. Maen nhw’n pwysleisio nad yw’r deintydd, Desmond D’Mello, yn dioddef o’r firysau ei hun ond fe allai fod wedi peri risg i gleifion am nad oedd wedi cydymffurfio a safonau rheoli heintiau.
Cafodd Desmond D’Mello, ei wahardd o’i waith ym mis Mehefin.
Mae arbenigwyr wedi argymell y dylai holl gleifion y deintydd gael eu sgrinio.
Dywedodd yr Athro Andrew Lee, arbenigwr iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Sheffield bod y risg i gleifion yn “isel.”