Mae pump o fanciau mwya’r byd yn wynebu dirwyon o hyd at £2 biliwn ar ôl i reoleiddwyr ddatgelu manylion y sgandal diweddaraf yn y diwydiant.

Mae’r dirwyon gan dri chorff, sy’n cynnwys yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn y DU, yn ymwneud a dylanwadu ar farchnadoedd cyfnewid tramor.

Mae’r FCA wedi cyflwyno dirwyon gwerth £1.1 biliwn i bump o fanciau am fethu a rheoli eu hymarferion busnes wrth ddelio gyda marchnadoedd cyfnewid tramor.

Y banciau sydd wedi cael eu dirwyo yw RBS, Citibank, HSBC, JPMorgan Chase a UBS. Dywed Barclays ei fod yn parhau i gynnal trafodaethau gyda’r rheoleiddwyr.

Daw’r cosbau diweddaraf yn dilyn dirwyon o £532 miliwn ar fanciau yn sgil helynt dylanwadu ar gyfraddau Libor.