Mae o leiaf pedwar person yn colli eu golwg yn ddiangen bob wythnos yng Nghymru oherwydd bod eu hapwyntiadau yn cael eu gohirio neu eu canslo.
Mewn adroddiad gafodd ei gomisiynu gan elusen Cymdeithas y Deillion RNIB Cymru, mae doctoriaid yn dweud bod y system apwyntiadau bron a mynd ar chwâl am nad yw’n medru ymdopi a’r galw.
Maen nhw hefyd yn beirniadu Llywodraeth Cymru am roi blaenoriaeth i apwyntiad cyntaf claf a pheidio gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweld yn fuan ar ôl hynny. Yn y cyfnod hwnnw, medd yr adroddiad, fe all eu golwg ddirywio yn gyflym iawn heb driniaeth.
Galwodd yr elusen am “adolygiad cynhwysfawr” o’r system apwyntiadau.
‘Sgandal’
Mae clefydau fel gordewdra a chlefyd siwgr, poblogaeth hyn a mwy o opsiynau triniaeth wedi cynyddu’r galw am apwyntiadau offthalmoleg, ond pryder arall gan RNIB Cymru oedd nad yw byrddau iechyd yn cofnodi faint o gleifion sy’n colli eu golwg yn gywir.
Dywedodd Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru: “Mae’n sgandal bod gymaint o bobol yn colli eu golwg yn ddiangen, ac mai dim ond un bwrdd iechyd yng Nghymru oedd yn medru dweud wrthym ni faint o bobol oedd wedi colli eu golwg.
“Mae’r pwysau i gyrraedd targedau amser ar gyfer cleifion newydd yn rhoi apwyntiadau dilynol mewn peryg.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r galw a chymryd camau ar frys i glirio’r rhestrau aros hir o gleifion sy’n disgwyl i gael gwasanaeth offthalmoleg.”
System newydd
Mae’r elusen am weld system newydd sy’n mesur apwyntiadau ynghyd a’r galw clinigol yn hytrach na thargedau. Mae hi hefyd yn hanfodol bod cleifion yn cael gwybod am y risg os yw eu hapwyntiadau yn cael eu gohirio neu eu canslo.
Ychwanegodd yr Athro Caroline MacEwen, Llywydd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr: “Mae angen dybryd i warchod cleifion sydd ag afiechydon llygaid gyda system “dargedau” fel sy’n cael ei ddarparu i gleifion newydd, yn ogystal â chofnodi’r data os oes oedi yn y system.”
Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Llywodraeth Cymru am ymateb.