Ty'r Cyffredin
Mae’r Blaid Lafur wedi dweud y bydd yn gorfodi pleidlais ar fesur dadleuol Warant Arestio Ewropeaidd (EAW).
Roedd y Llywodraeth wedi ennill pleidlais ynglŷn â mabwysiadu pecyn o fesurau cyfraith a threfn yr Undeb Ewropeaidd neithiwr, ond daeth hynny ar ôl dadleuon tanbaid yn y Senedd.
Fe allai penderfyniad y Blaid Lafur i orfodi pleidlais ar y mater ar 19 Tachwedd achosi rhwyg pellach o fewn y Blaid Geidwadol ynglŷn ag Ewrop ar drothwy isetholiad Rochester a Strood.
Dywed y Blaid Lafur bod pleidlais ar yr EAW yn unig yn angenrheidiol “er mwyn rhoi sicrwydd cyfreithiol ac osgoi heriau cyfreithiol” meddai ffynhonnell.
Fe ddechreuodd y gwrthdaro neithiwr ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod cynnig y Llywodraeth yn cyfeirio at 11 o’r 35 o fesurau y mae’r Llywodraeth yn gobeithio eu mabwysiadu, ond nad oedd yr EAW wedi ei gynnwys yn y grŵp oedd dan sylw yn y bleidlais.
Fe gyhoeddodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow wrth ASau na fyddan nhw’n pleidleisio ar yr EAW a bu’n feirniadol iawn o’r Llywodraeth am “dorri addewid.”