Mae rhybudd melyn wedi ei gyhoeddi am law trwm ar draws de Cymru a’r rhagolygon yn gado mwy o dywydd ansefydlog.
Yn benodol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bobol sy’n byw yng ngorllewin Bro Morgannwg, de Sir Benfro a ger Afonydd Llynfi ac Ogwr, Taf a Chynin fod yn barod am lifogydd wedi noson o law trwm.
Gofynnodd yr asiantaeth hefyd i bobl fod yn fwy gofalus nag arfer ar y ffyrdd gan fod posibilrwydd o lifogydd os bydd y draeniau’n gorlifo.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i’r cawodydd trymion barhau am weddill yr wythnos gan waethygu yn y De tuag at ddydd Iau.
Cafodd tua 20 o gartrefi yn Sir Benfro eu heffeithio gan y dŵr ddydd Gwener ddiwethaf hefyd wedi i’r ardal gael ei heffeithio’n ddifrifol gan lifogydd am yr eildro eleni.