Fe fydd aelodau o dasglu Murco yn cwrdd heddiw, er mwyn trafod sut i ddod o hyd i swyddi i gannoedd o weithwyr y burfa yn Sir Benfro fydd yn cael eu diswyddo.
Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf nad oedd cwmni Klesch o’r Swistir am brynu’r safle yn Aberdaugleddau fel oedd wedi ei fwriadu, ac y bydd yn cael ei droi yn safle i storio tanwydd.
Fe fydd mwy na 300 o bobol yn colli eu gwaith yn uniongyrchol, ond mae disgwyl y bydd effaith ar fwy na 4,000 o swyddi eraill.
Dywedodd Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro, Paul Davies fod y cyhoeddiad yn “erchyll” ac yn ôl llefarydd busnes y Ceidwadwyr, William Graham mae’n “ ergyd drom i economi’r gorllewin”.
Tasglu
Bydd y tasglu yn cwrdd yng Nghaerdydd, dan arweiniad Gweinidog yr Economi, Edwina Hart.
Ar ôl cael ei sefydlu yn wreiddiol ym mis Ebrill er mwyn ceisio sicrhau dyfodol i’r burfa, mi fydd aelodau heddiw yn trafod sut i ddenu swyddi newydd i ardal Sir Benfro.
Daw wrth i’r Aelod Seneddol Ewropeaidd, Jill Evans, alw ar Lywodraeth Prydain i wneud cais am arian Ewrop i helpu gweithwyr y burfa.