Mae mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd i wledydd Prydain yn rhoi mwy o arian i’r economi trwy drethi nag y maen nhw’n ei dderbyn trwy fudd-daliadau, yn ôl ymchwil newydd.

Ond mae’r ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL) yn dangos mai fel arall yw hi ar gyfer mewnfudwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd dros gyfnod o 17 o flynyddoedd.

Cyfrannodd mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd £4.4 biliwn i economi’r DU rhwng 1995 a 2011, tra bod mewnfudwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd wedi tynnu £118 biliwn allan o’r economi yn yr un cyfnod.

Yn y cyfnod hwnnw, gwnaeth gweithwyr a gafodd eu geni yn y DU gyfraniad negyddol o £591 biliwn.

Yn y cyfnod rhwng 2001 a 2011, gwnaeth mewnfudwyr o Ewrop – o’r Undeb Ewropeaidd a’r tu allan – gyfraniad o £20 biliwn i’r economi.

‘Cyfraniad sylweddol’

Dywedodd arweinydd yr ymchwil yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yr Athro Christian Dustmann fod yr ymchwil yn adlewyrchu’n dda ar fewnfudwyr.

“Mae mewnfudwyr o Ewrop, yn enwedig, o wledydd sy’n aelodau newydd ac o weddill yr Undeb Ewropeaidd, yn gwneud y cyfraniad mwyaf sylweddol.

“Mae hyn yn bennaf oherwydd eu cyfraniad uwch nag arfer i’r farchnad lafur o’i gymharu â brodorion, yn ogystal â’r ffaith eu bod nhw’n derbyn llai o fudd-daliadau.”

Yn ôl yr ymchwil, mae mewnfudwyr sydd wedi dod i wledydd Prydain ers 2000 43% yn llai tebygol o hawlio budd-daliadau neu gredyd trethi, a 7% yn llai tebygol o fyw mewn tai sy’n derbyn cymhorthdal.

Wrth ymateb i’r ymchwil, dywedodd pennaeth corff MigrationWatch UK, Syr Andrew Green fod mewnfudwyr wedi costio hyd at £150 biliwn yn ystod y 17 o flynyddoedd diwethaf.

Dywedodd fod y corff yn amau’r ymchwil, gan ddweud bod mewnfudwyr yn cyfrannu llai na £1 y pen i’r economi.