Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen, mae elusen Mind wedi datgelu fod dros 50% o bobol yn teimlo o dan bwysau mawr yn y gwaith.

Cafodd 1,250 o bobol eu holi ym Mhrydain ac fe ddywedodd 20% ohonyn nhw bod eu gwaith yn rhoi straen ar eu priodas neu eu perthynas, gydag 11% yn methu digwyddiadau pwysig fel priodasau neu ben-blwyddi oherwydd eu gwaith.

Daeth i’r amlwg hefyd fod pwysau yn y gweithle yn effeithio’n negyddol ar iechyd corfforol fel patrymau cwsg a chwant bwyd.

Mae’r elusen yn galw ar gyflogwyr i greu amgylchedd agored yn y gweithle, lle mae pobol yn medru trafod eu hiechyd yn agored.

Iechyd meddwl

Yn ogystal, gwelwyd fod iechyd meddwl yn bwnc sydd ddim yn cael ei darfod yn agored yn y gweithle. Dywedodd 30% o bobol nad oedden nhw’n teimlo’n ddigon cyffyrddus i drafod llwyth gwaith gyda’u rheolwyr.

Dywedodd Emma Mamo, Pennaeth Lles yn y Gweithle yr elusen: “Beth sy’n amlwg yw, nid yn unig pa mor gyffredin yw teimlo o dan bwysau yn y gwaith, ond nad yw staff yn teimlo fel eu bod yn cael digon o gefnogaeth i ymdopi gyda’r straen.

“Mae hi’n bwysig iawn i gyflogwyr fonitro lles eu staff a chreu diwylliant agored lle mae’r gweithwyr yn medru trafod eu teimladau heb gael eu gweld fel person gwan.”