Mae angen gwella’r berthynas broffesiynol rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu er mwyn datblygu fferyllfeydd cymunedol Cymru ymhellach.
Dyna farn Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad, sydd wedi bod yn edrych ar gyfraniad fferyllfeydd cymunedol i’r gwasanaethau iechyd.
Gwelwyd mai araf yw’r cynnydd o ran gwella cydweithio rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu ac mae’r Pwyllgor wedi galw am greu gweithgor sy’n cynnwys aelodau o’r ddau broffesiwn er mwyn cyflymu’r broses o sicrhau consensws rhyngddyn nhw.
Argymhellion
Mewn llythyr at y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford AC, mae’r Pwyllgor yn nodi rhai meysydd lle y mae angen rhagor o waith, megis:
• gwella dulliau cyfathrebu i roi gwybod i’r cyhoedd am y gwasanaethau fferyllfeydd cymunedol;
• darparu arweiniad cenedlaethol cliriach ar gyfer datblygu gwasanaethau fferyllfeydd cymunedol;
• dod i gytundeb rhwng gweithwyr proffesiynol a chleifion ynghylch y graddau y dylai fferyllfeydd cymunedol a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd allu cael mynediad at wybodaeth am gleifion;
• ystyried newid y ffordd y mae fferyllfeydd cymunedol yn cael eu cyllido er mwyn sicrhau system sy’n seiliedig ar safon y canlyniadau yn hytrach na nifer y meddyginiaethau a ddosberthir.
Cynnydd araf
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Er bod y Pwyllgor yn croesawu’r camau a gymerwyd eisoes i wella cydweithio rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu, rydym yn siomedig ynghylch arafwch y cynnydd.
“Rydym yn galw ar y Gweinidog i ystyried creu gweithgor sy’n cynnwys meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol er mwyn cyflymu’r broses o sicrhau consensws rhwng y ddau broffesiwn.”