Mae’r Tribiwnlys Apêl ar Gyflogaeth wedi dyfarnu y dylai tâl goramser gael ei gymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo tâl gwyliau.
Meddai undeb Unite y gallai’r dyfarniad baratoi’r ffordd ar gyfer taliadau posibl gwerth miloedd o bunnoedd i weithwyr sy’n gweithio oriau goramser gofynnol.
Ond mae cwmnïau wedi rhybuddio eu bod nhw’n wynebu gwneud taliadau gwerth biliynau o bunnoedd a allai olygu eu bod yn mynd i’r wal.
Fe wnaeth y Tribiwnlys Apêl ar Gyflogaeth ddyfarnu ar ddau achos prawf oedd yn ymwneud â dehongliad y DU o Gyfarwyddeb Oriau Gwaith.
Dywedodd Unite bod y gweithwyr yn yr achosion aeth o flaen y Tribiwnlys yn gweithio oriau ychwanegol yn gyson, ond fod hynny ddim wedi’i gynnwys yn eu tâl gwyliau, sy’n golygu eu bod yn derbyn “cryn dipyn yn llai” pan ar wyliau o’i gymharu â phan oeddent yn gweithio.
Meddai Howard Beckett o undeb Unite: “Mae rhai gweithwyr sy’n gorfod gweithio oriau ychwanegol wedi cael eu cosbi am gymryd gwyliau. “
Ychwanegodd fod y “dyfarniad hwn yn sicrhau cyfiawnder i’n haelodau.”