Fiona Woolf
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May heddiw yn ceisio ail-ddechrau’r broses o gynnal ymchwiliad i achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol ar ôl i ail gadeirydd ymddiswyddo mewn llai na phedwar mis.

Mae disgwyl i Theresa May wneud datganiad yn y Senedd i esbonio sut mae hi’n bwriadu parhau gyda’r broses yn dilyn ymddiswyddiad Fiona Woolf ddydd Gwener.

Roedd Woolf, Arglwydd Faer Llundain, wedi cyfaddef ei bod wedi colli hyder dioddefwyr ar ôl i’w chysylltiadau gyda’r cyn ysgrifennydd cartref yr Arglwydd Brittan gael eu datgelu.