Mae Heddlu Gwent yn parhau i holi dyn gafodd ei arestio ddoe ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i gorff dynes 78 oed gael ei ddarganfod yn Sir Fynwy.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn ardal Brynbuga tua 6.50yh nos Sadwrn.

Cafwyd hyd i gorff dynes leol a chafodd dyn 48 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Roedd disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal er mwyn darganfod beth oedd achos ei marwolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa ac yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Ychwanegodd nad yw’r heddlu’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ond dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon ynglŷn â’r digwyddiad eu ffonio ar 101.

Mae teulu’r ddynes yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Richard Williams sy’n arwain yr ymchwiliad: “Mae hyn yn ddigwyddiad trasig ac mae’n meddyliau gyda theulu’r ddynes yn ystod y cyfnod anodd iawn yma.

“Fe fydd ein hymchwiliad yn ceisio darganfod yn union beth ddigwyddodd a gallaf gadarnhau nad ydyn ni’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad yma.”