Theresa May - wedi cael llythyr gan Paul Flynn
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi awgrymu enwau o leia’ ddau arbenigwr Cymreig a allai gadeirio’r ymchwiliad i gam-drin plant yn rhywiol.

Ac, yn ôl Paul Flynn, “ofnadwy” yw’r gair i ddisgrifio ymgais y Swyddfa Gartref a’r cyn-Gadeirydd, Fiona Woolf, i guddio’i chysylltiadau hi â’r cyn Ysgrifennydd Cartref, Leon Brittan.

Ac yntau’n aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Catref yn San Steffan, mae’n dweud yn awr bod angen i’r unigolyn nesa’ sy’n cael ei benodi i arwain yr ymchwiliad i fod o’r tu allan i Lundain a heb fod yn rhan o’r sefydliad.

Pobol yng Nghymru

“Mae yna bobol yng Nghymru – pobol dda iawn – sydd wedi rhedeg ymchwiliadau o’r fath ac wedi gwneud hynny yn llwyddiannus a sensitif dros ben,” meddai wrth Golwg360.

“Wythnos yn ôl fe anfonais lythyr at Theresa May – yr Ysgrifennydd Cartref – gydag enwau dau o bobol a fyddai’n addas dros ben, pobol sy’n arbenigwyr yn y maes a heb unrhyw bosibilrwydd o fod yn rhan o’r sefydliad Prydeinig fel yr oedd Fiona Woolf.

“Mae llawer o bobol a fyddai’n addas ar gyfer rhedeg yr ymchwiliad y tu allan i Lundain.”

Mae’r ymchwiliad wedi cael ei sefydlu i ddarganfod a wnaeth cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill ddigon i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin rhwng 1970 a’r presennol.

Fe wnaeth Fiona Woolf ymddiswyddo o’i rôl yn Gadeirydd yr ymchwiliad wedi iddi ddod i’r fod ganddi gysylltiadau agos gyda Leon Brittan, yr Ysgrifennydd Cartref rhwng 1983 a 1985 ac un sy’n cael ei gyhuddo o anwybyddu honiadau am gam-drin.

‘Dweud celwydd’

FionaWoolf oedd yr ail i ymddiswyddo o’r rôl, wedi i’r Farwnes Butler-Sloss ymddiswyddo am ganddi hithau hefyd gysylltiad agos gyda’r sefydliad o’r adeg hynny – a’i brawd yn Dwrnai Cyffredinol yn yr 80au.

Daeth y pwysau ar Ms Woolf i adael yn ormod wedi iddi ddod i’r amlwg bod llythyr a ysgrifennodd hi at Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref ynglŷn â natur ei pherthynas gyda Brittan wedi cael ei ailysgrifennu saith o weithiau.

Mae’r holl ddrafftiau o’r lythyr bellach wedi eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Dethol. http://www.parliament.uk/documents/commons-committees/home-affairs/141029%20Fiona%20Woolf%20to%20KV%20re%20ev%20follow-up.pdf

Cwestiynau

Mae cwestiynau angen eu hateb ynghylch pam bod Ms Woolf a’r Swyddfa Gartref wedi cydgynllwynio i’w ailysgrifennu, yn ôl Mr Flynn.

“Mae’n sefyllfa ofnadwy gyda’r llythyrau oedd yn dangos fod Ms Woolf a’r Arglwydd Britain yn gyfeillion agos,” meddai.

“Maen nhw yn dweud celwydd drwy newid y llythyrau a bydd yn anodd i ddweud yn glir pam oedd gweision sifil yn ceisio dweud celwydd.”

Mae Golwg360 wedi cysylltu gyda’r Swyddfa Gartref am ymateb.