Y criw yn Burkina Faso
Mae perthnasau’n ôl yng Nghymru yn gobeithio bod yr ymgyrchydd iaith, Ffred Ffransis, a’i deulu bellach ar y ffodd yn ôl i Gymru, wedi iddyn nhw gael eu dal yn yr anghydfod yn Burkina Faso yn Affrica.
Pan siaradodd Golwg360 gyda’i wraig, Meinir Ffransis, yn Llanfihangel-ar-Arth yng Ngheredigion, brynhawn Sul roedden nhw yn y maes awyr yn y brifddinas ac yn gobeithio gadael.
Ond tua’r un pryd, roedd adroddiadau am ragor o ymladd a bod gorsaf deledu’r wlad wedi rhoi’r gorau i ddarlledu.
Cau’r maes awyr
Roedd Ffred Ffransis, ei ferched Lleucu, Carys a Siriol, ac aelodau eraill o’r teulu yn Burkina Faso gyda’r elusen ddyngarol Coda Ni.
Roedden nhw wedi bwriadu hedfan yn ôl yr wythnos ddiwetha’ ond fe gafodd y maes awyr ei gau wrth i brotestwyr ddisodli arlywydd y wlad.
Roedden nhw wedi gorfod dianc o’r brifddinas i ardal wledig er mwyn osgoi’r trais, wrth i ddinasyddion y wlad brotestio ar y strydoedd.
Ddydd Gwener fe ymddiswyddodd yr arlywydd ac fe gamodd y fyddin i’r bwlch er gwaetha’ beirniadaeth ryngwladol.
Dywedodd Meinir Ffransis wrth Golwg 360 bod yr holl deulu bellach yn gobeithio gallu hedfan i Casablanca nos Sul.