Anas Sarwar - ddim am sefyll (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae tri o’r enwau amlyca’ eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n cynnig am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn yr Alban.

Gyda ffrindiau’r cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, hefyd yn dweud na fyddai yntau am sefyll, dim ond rhyw ddau neu dri enw sydd ar ôl.

Ac mae Aelod Seneddol Llafur arall o’r Alban wedi cefnogi safiad y cyn arweinydd Johann Lamont trwy ddweud bod angen i’r blaid Albanaidd gymryd safiad gwahanol i blaid San Steffan.

Yn ôl AS North Ayrshire, Katy Clark, mae angen “symudiad arwyddocaol i’r chwith”.

Dau enw tebygol

Yr arweinydd tros dro, Anas Sarwar, oedd y cynta’ i ddweud na fyddai’n sefyll ac fe gafodd ei ddilyn heddiw gan Jenny Marra a Kezia Dugdale, dau o’r ASAau ifanc addawol.

Yn ôl ffynonellau yn yr Alban, y ddau enw mwya’ tebygol bellach yw’r llefarydd yn San Steffan ar ddatblygu rhyngwladol, Jim Murphy, a’r llefarydd iechyd yn Holyrood, Neill Findlay.

Mae yna grŵp bach o ASAau yn yr Alban wedi galw ar i’r Blaid Lafur yno fynd yn gwbl annibynnol ar y blaid  yn Llundain.

Mae’r polau piniwn ar hyn o bryd yn awgrymu y gallai Llafur wynebu chwalfa yn yr Alban yn yr Etholiad Cyffredinol nesa’, yn dilyn ymateb y pleidiau mawr i’r refferendwm ar annibyniaeth.