Baner IS
Caerdydd yw un o’r mannau annisgwyl lle mae dynion ifanc yn cael eu recriwtio i ymladd ar ran y mudiad milwrol IS mewn gwledydd fel Syria ac Irac.

Dyna honiad arbenigwr ar drais gwleidyddol sydd hefyd wedi galw am beidio â mynd â phasports yr ymladdwyr sydd wedi mynd i Syria.

Yn ôl Dr Peter Neumann o Goleg y Brenin, Llundain, roedd Caerdydd a Portsmouth yn ddwy ddinas lle’r oedd nifer annisgwyl o bobol ifanc wedi cael eu recriwtio i’r ‘Wladwriaieth Islamaidd’ – ochr yn ochr â nifer sylweddol o Lundain.

Roedd yr academydd yn siarad ar Radio Four ar ôl adroddiad fod dyn ifanc o Bortsmouth newydd gael ei ladd wrth ymladd yn Syria.

‘Ychydig yn denu rhagor’

Roedd ychydig bobol ifanc wedi mynd allan yno o lefydd fel Caerdydd yn 2013 ac wedyn wedi denu rhagor o’u ffrindiau i ymuno â nhw.

Er ei fod yn cefnogi mynd â phasports pobol oedd yn bwriadu mynd i’r Dwyrain Canol i ymladd, roedd yn erbyn dileu pasports y rhai oedd yno eisoes.

Yn ôl Peter Neumann, roedden nhw’n aml yn cael eu siomi yn yr hyn yr oedden nhw’n ei weld ac eisiau rhoi’r gorau i ymladd a dod oddi yno.