Gordon Brown yn ystod ymgyrch y refferendwm (PA)
Mae ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn yr Alban wedi cael gwhaoddiad i ddangos diddordeb yn y swydd, ynghanol dadlau poeth.
Mae rhai Llafurwyr wedi galw ar gyn Brif Weinidog Prydain, Gordon Brown, i sefyll yn y bwlch er mwyn cadw unoliaeth.
Y gred yw ei fod eisoes wedi gwrthod y syniad yn sgil ymddiswyddiad Johann Lamont or swydd ddydd Gwener.
‘Swyddfa gangen’
Roedd hi wedi cyhuddo’r arweinwyr Llafur yn Llundain o drin y blaid yn yr Alban fel “swyddfa gangen” ac o fethu ag amgyffred y newid sydd wedi bod yng ngwleidyddiaeth y wlad.
Gwadu hynny a wnaeth yr arweinydd dros dro, yr Aelod Seneddol Anas Sarwar, sy’n un o hanner dwsin o enwau yn y ffram.
Hyd yn hyn, mae wedi gwrthod dweud a fydd yn sefyll ond mae nifer o ASau ac ASAau ifanc yn debyg o gynnig hefyd.
‘Ymosod ar y Ceidwadwyr’
Y peth pwysig, meddai Anas Sarwar, oedd fod Llafur yn canolbwyntio ar ymosod ar y Ceidwadwyr rhwng hyn a’r Etholiad Cyffredinol Prydeinig ym mis Mai.
Roedd Pwyllgor Gwaith Plaid Lafur yr Alban wedi cyfarfod ddoe i wneud trefniadau ar gyfer ethol arweinydd newydd.
Fe fydd enwebiadau’n agor ddydd Gwener ac yn cau bum niwrnod yn ddiweddarach ar 4 Tachwedd gyda’r pleidleisio’n digwydd wedyn a’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 13 Rhagfyr.
Yr SNP’n manteisio
Mae prif wrthwynebwyr y Blaid Lafur yn yr Alban, plaid genedlaethol yr SNP, eisoes wedi cymryd mantais o’r dadlau gan ddweud ei fod yn dangos maint y rhwygiadau rhwng Caeredin a Llundain.
Ers y refferendwm annibyniaeth a’r addewidion ar y cyd rhwng y Ceidwadwyr a Llafur, mae’r gefnogaeth i Lafur wedi syrthio.
Ar hyn o bryd, mae’r polau piniwn yn gosod yr SNP o amgylch 43% a Llafur yn ôl tua 26%.