Mae teulu a ffrindiau pobl sydd wedi marw yn y ddalfa wedi bod yn gorymdeithio drwy Lundain i fynnu cyfiawnder i’w hanwyliaid.

Yn ôl y trefnwyr, fe fu tua 300 o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol, gan orymdeithio’r tu ôl i faner las yn dweud ‘No more deaths in custody’.

Roedd llawer o’r baneri’n cyfeirio at Mark Duggan, a gafodd ei saethu gan heddwas yn ystod mis Awst 2011, digwyddiad a arweiniodd at derfysgoedd ledled rhannau helaeth o Lundain.

Dywedodd un o’r trefnwyr, Deborah Coles, cyfarwyddwr y grŵp ymgyrchu Inquest, fod yr orymdeithas yn ddiwrnod pwysig ond poenus i deuluoedd y rhai a fu farw yn y ddalfa.

“Mae llawer o deuluoedd yn teimlo’u hunain yn cael eu bradychu gan system sy’n eu gadael nhw i lawr,” meddai.

“Mae’r un pethau’n digwydd dro ar ôl tro er gwaethaf geiriau gwag gan Weinidogion y Llywodraeth y bydd gwersi’n cael eu dysgu.

“Dyma’r orymdaith olaf cyn yr etholiad cyffredinol ac mae’n rhaid i’r mater o farwolaethau yn y ddalfa fod ar yr agenda gwleidyddol yn ystod y cyfnod sy’n arwain at yr etholiad.”