Mae dyn 29 oed wedi cael ei gyhuddo o droseddau brawychiaeth wedi i ddyfeisiadau ffrwydrol gael eu darganfod yn ei gartref.

Cafodd cartref Benjamin Harris yn Nwyrain Swydd Sussex ei archwilio ac fe gafodd ei arestio ar Fawrth 13 y llynedd.

Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster ar Hydref 29 ar fechnïaeth yr heddlu.

Cafodd powdr a chemegion ar gyfer creu tân gwyllt eu darganfod yn ei gartref, ynghyd â llyfrau’n esbonio sut i greu dyfeisiadau ffrwydrol.

Cafodd planhigion canabis eu darganfod hefyd.

Mae Harris wedi’i gyhuddo o fod â phowdr ffrwydrol a chemegion yn ei feddiant ac o greu powdr ffrwydrol, a hefyd o gasglu neu greu cofnodion a fyddai’n cynorthwyo pobol sy’n bwriadu cyflawni troseddau brawychol.