Fe fydd pob un o brif bleidiau’r Alban yn cwrdd heddiw fel rhan o Gomisiwn Smith i drafod mwy o bwerau.
Cafodd y trafodaethau eu trefnu yn sgil pleidlais ‘Na’ yn refferendwm yr Alban fis diwethaf.
Cyn i’r trafodaethau ddechrau heddiw, dywedodd cadeirydd y comisiwn, yr Arglwydd Smith ei fod yn ffyddiog y bydd y pleidiau’n dod i gytundeb.
Yn ogystal â’r prif bleidiau Prydeinig, fe fydd cynrychiolwyr o’r SNP a’r Blaid Werdd hefyd yn cymryd rhan yn y trafodaethau.
Mae’r SNP yn galw am roi cyfrifoldeb am ei holl wariant yn nwylo’r Alban, ac fe fyddai hynny’n cynnwys lles.
Mae’r Blaid Lafur yn dymuno gweld yr Alban yn codi 40% o’i chyllideb, yn ogystal â datganoli pwerau ar bolisi lles, gan gynnwys budd-dal tai.
Mae darpar-Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi galw am “bwerau at ddiben”, fel bod modd creu swyddi, amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol.
Bydd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, John Swinney a’r Aelod Seneddol Linda Fabiani yn cynrychioli’r SNP yn y trafodaethau.
Llefarydd cyllid y Blaid Lafur, Iain Gray a llefarydd pensiynau San Steffan Gregg McClymont fydd yn cynrychioli’r blaid honno.
Annabel Goldie a’r Athro Adam Tomkins fydd yn cynrychioli’r Ceidwadwyr, tra bydd cyn-Ysgrifennydd yr Alban Michael Moore a’r cyn-arweinydd Tavish Scott yn cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Patrick Harvie a Maggie Chapman fydd yn cynrychioli’r Blaid Werdd.
Mae disgwyl i’r pleidiau ddod i gytundeb erbyn diwedd mis Tachwedd, ac fe fydd deddfwriaeth ddrafft yn cael ei chyhoeddi erbyn diwedd mis Ionawr y flwyddyn nesaf.