Yr Arglwydd Brittan
Mae pwysau cynyddol ar arweinydd ymchwiliad i droseddau rhyw hanesyddol i ymddiswyddo yn sgil ei pherthynas agos â’r Arglwydd Brittan, y cyn-Ysgrifennydd Cartref oedd wedi methu ymateb i’r honiadau yn y 1980au.

Dywed y cyfreithiwr sy’n cynrychioli rhai o’r unigolion oedd wedi cael eu cam-drin fod perthynas Fiona Woolf â’r gwleidydd yn codi amheuon am ba mor briodol fyddai caniatáu iddi barhau i arwain yr ymchwiliad.

Daeth i’r amlwg ddoe fod Woolf wedi mynd i ddau barti yng nghartref yr Arglwydd Brittan a’i bod hithau wedi croesawu’r gwleidydd a’i wraig i’w chartref dair gwaith.

Ond roedd hi’n mynnu nad oedd eu perthynas yn un glos, gan ddweud wrth bwyllgor yn San Steffan fod yr Arglwydd Brittan ymhlith miloedd o bobol yr oedd hi’n eu hadnabod yn Llundain.

Dywedodd y cyfreithiwr Alison Millar y dylai Woolf ymddiswyddo o’r ymchwiliad.

Cafodd ei phenodi ym mis Medi yn dilyn ymddiswyddiad yr arweinydd blaenorol, y Fonesig Butler-Sloss.

Daeth i’r amlwg bryd hynny fod gan ei brawd, yr Arglwydd Havers, gysylltiad agos â’r ymchwiliad a phenderfynodd y byddai’n amhriodol iddi barhau i arwain yr ymchwiliad.

Perthynas y ddau

Cyhoeddodd Fiona Woolf lythyr ddoe yn amlinellu ei chyswllt â’r Arglwydd Brittan.

Yn y llythyr at y Pwyllgor Materion Cartref, dywedodd fod y ddau wedi bod mewn nifer o bartïon yng nghartrefi ei gilydd, ei bod hi wedi cwrdd â’i wraig am goffi, wedi bod ar banel gwobrwyo gyda hi ac wedi ei noddi ar gyfer ras.

Ond dywedodd nad oedd y cyswllt hwnnw’n amharu ar ei gallu i arwain yr ymchwiliad.

Doedd hi ddim yn cofio, meddai, a oedd hi wedi anfon cerdyn Nadolig atyn nhw’r llynedd, ond dywedodd nad oedd eu rhifau ffôn wedi cael eu cadw yn ei ffôn symudol.

Mae disgwyl i’r Arglwydd Brittan roi tystiolaeth i’r pwyllgor er mwyn esbonio cynnwys ffeil a dderbyniodd gan yr Aelod Seneddol Geoffrey Dickens yn 1983.

Yn ôl adroddiadau, roedd y ffeil yn cynnwys enwau nifer o unigolion oedd yn rhan o gylch o bedoffiliaid.