Cafodd £1 biliwn ei wario’r llynedd i gadw miloedd o droseddwyr o dramor yng ngwledydd Prydain.
Roedd un o bob chwech o droseddwyr – 760 o 4,200 – wedi mynd ar goll yn y gymuned, gan gynnwys 58 oedd yn peri risg sylweddol i’r cyhoedd.
Dywed y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol nad yw’r heddlu’n cynnal archwiliadau cywir wrth i droseddwyr o dramor ddod i Brydain.
Cafodd pryderon eu datgelu yn dilyn diflaniad Arnis Zalkalns o Latfia, oedd wedi’i amau o lofruddio Alice Gross yn Llundain.
Daeth i’r amlwg yn ystod yr ymchwiliad bod Zalkalns wedi treulio saith mlynedd dan glo yn ei famwlad am lofruddio’i wraig.
Ystadegau
Bu cynnydd o 4% ers 2006 yn nifer y troseddwyr o dramor sydd yng ngwledydd Prydain, tra bod llai o droseddwyr yn cael eu hanfon allan erbyn hyn.
Roedd 12,500 o droseddwyr o dramor yng ngwledydd Prydain ddiwedd mis Mawrth eleni, ac roedden nhw naill ai yn y carchar neu’n byw yn y gymuned yn aros i gael gwybod a fydden nhw’n gorfod gadael.
Mae cyrff cyhoeddus wedi gwario £850 miliwn ar droseddwyr o dramor yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r ffigwr hwnnw, yn ôl y Swyddfa Archwilio, yn cyfateb i oddeutu £70,000 y pen ar gyfer pob troseddwr.
Ychydig iawn o gynnydd fu ers 2006, yn ôl y Swyddfa Archwilio, pan arweiniodd ymchwiliad i’r sefyllfa at ymddiswyddiad yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Charles Clarke.
Bryd hynny, daeth i’r amlwg fod dros 1,000 o garcharorion o dramor wedi cael eu rhyddhau o garchardai yng ngwledydd Prydain heb ymdrech i’w ceisio anfon adref.