Yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Fe fydd awdur yr adroddiad i achosion o gam-drin rhywiol yn Rotherham yn gweithio ar y cyd gyda chadeirydd ymchwiliad y Llywodraeth i achosion o gam-drin plant.
Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May y bydd yr Athro Alexis Jay yn un o banel o arbenigwyr yn yr ymchwiliad.
Bydd yn cael ei gadeirio gan Arglwydd Faer Llundain Fiona Woolf.
Fe fydd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill wedi cymryd yn ddifrifol eu dyletswydd i ddiogelu plant rhag achosion o gam-drin rhywiol.
Dywedodd Theresa May ei bod yn hyderus y bydd y panel yn cynnal ymchwiliad trwyadl a fydd yn herio unigolion a sefydliadau “heb ffafriaeth nag ofn.”
Bydd y panel yn ystyried materion sy’n dyddio o’r 1970au hyd at y presennol.
Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys Sharon Evans, Ivor Frank, y Fonesig Moira Gibb, yr Athro Jenny Pearce, Dru Sharpling, yr Athro Terence Stephenson, Graham Wilmer a Barbara Hearn.
Mae disgwyl i’r panel gyflwyno adroddiad cychwynnol i’r Ysgrifennydd Cartref erbyn diwedd mis Mawrth nesaf.