Dave Lee Travis
Ni fydd dedfryd Dave Lee Travis yn cael ei chyfeirio at y Llys Apêl, meddai’r Twrnai Cyffredinol.
Roedd y cyn DJ 69 mlwydd oed wedi cael dedfryd o garchar wedi’i ohirio am dri mis am ymosod yn anweddus.
Canfu Jeremy Wright QC nad oedd y ddedfryd am ymosod yn anweddus ar ymchwilydd teledu ar raglen the Mrs Merton Show yn 1995 “yn anaddas nac yn rhy drugarog”.
Cafwyd Dave Lee Travis yn euog o’r ymosodiad yn Llys y Goron Southwark yn Llundain fis diwethaf.