Mae dyn oedd wedi ei barlysu’n gyfan gwbl o’r canol i lawr ar ôl i’w asgwrn cefn gael ei dorri’n ei hanner mewn ymosodiad, wedi gallu cerdded eto diolch i lawdriniaeth arloesol.
Credir mai Darek Fidyka, 38 oed, o Fwlgaria, a ddioddefodd ei anaf yn 2010, yw’r person cyntaf yn y byd i wella o anaf o’r fath.
Mae Darek Fidyka nawr yn gallu cerdded gyda ffrâm ac mae wedi gallu ailddechrau byw yn annibynnol, gan hyd yn oed yrru car.
Defnyddiodd llawfeddygon gelloedd arbennig o drwyn Darek i ddarparu llwybrau ble’r oedd y meinwe wedi torri fel eu bod yn gallu tyfu eto.
Er gwaethaf llwyddiant blaenorol mewn labordy, dyma’r tro cyntaf i’r driniaeth weithio ar glaf go iawn.
Bydd yr ymchwil yn cael sylw mewn rhaglen arbennig o Panorama ar BBC One heno.