David Cameron
Fe fydd David Cameron yn cael ei rybuddio heddiw y gallai wneud “camgymeriad hanesyddol” drwy ynysu gwledydd yn nwyrain Ewrop wrth iddo geisio diwygio cysylltiadau’r DU gyda Brwsel.
Mae disgwyl i Jose Manuel Barroso, a fydd yn gadael ei swydd fel llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, rybuddio’r Prif Weinidog na fyddai gan wledydd unigol fel y DU bresenoldeb ar lwyaf byd-eang heb gefnogaeth y gwledydd eraill sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae David Cameron wedi dweud y byddai’n cynnal refferendwm ynglŷn â gadael yr UE petai’n dod i rym yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Ddoe, dywedodd Jose Manuel Barroso y gallai gobeithion David Cameron i geisio lleihau nifer y mewnfudwyr o’r UE fod yn anghyfreithlon.