Fe fydd cannoedd o swyddi’n diflannu wrth i swyddfeydd Cyllid a Thollau (HMRC) gau.

Mae HMRC wedi dweud y bydd 14 o swyddfeydd yn cau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, gan effeithio 453 o staff. Yn ôl adroddiadau fe fydd o leiaf 100 o’r rheiny yng Nghymru.

Yn ôl Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) fe fydd mwy na 1,000 o bobl yn colli eu swyddi gan ddweud nad yw’n gwneud “synnwyr economaidd” i wneud toriadau mewn adran sy’n casglu trethi.

Yn ogystal â’r 450 o swyddi, dywed y PCS bod 690 o swyddi gweinyddol cynorthwyol hefyd dan fygythiad.

Dywed HMRC eu bod nhw wedi newid y ffordd mae’n cyflawni’r gwaith gan olygu bod angen llai o staff gweinyddol.