Bryn Parry Jones
Mae cynghorwyr Sir Benfro newydd bleidleisio tros roi tailiad o gannoedd o filoedd o bunnoedd yn setliad ffarwel i’w Prif Weithredwr.

Hynny, er eu bod wedi pleidleisio tros gynnig o ddiffyg hyder ynddo tua mis yn ôl ynglŷn â honiadau ei fod wedi derbyn taliadau anghyfreithlon.

Fe gafodd cyfarfod o’r cyngor sir ei ohirio dros dro ychydig wedi pump ar ôl i’r cynghorwyr bleidleisio o 29 i 23 tros y cynnig i roi taliad diswyddo i Bryn Parry Jones.

Y gred yw fod y swm tua £320,000 er nad oedd y Cyngor Sir yn fodlon rhoi unrhyw fanylion.

Y cefndir

Ddeuddydd yn ôl fe gyhoeddodd yr heddlu na fydden nhw’n cymryd camre pellach yn erbyn yr uchel swyddog ar ôl ymchwilio i’w achos am yr ail waith.

Roedd rhai cynghorwyr wedi galw yn y gorffennol am ddiswyddo’r Prif Weithredwr ar ôl iddi ddod yn amlwg ei fod wedi derbyn taliadau pensiwn di-dreth yn lle codiad cyflog.