Nicola Sturgeon
Mae Nicola Sturgeon wedi cael ei hethol yn arweinydd yr SNP heb wrthwynebiad, ac mi fydd hi’n dod yn Brif Weinidog newydd Yr Alban.

Ni fydd ei harweinyddiaeth yn cael ei chyhoeddi’n ffurfiol nes bod cynhadledd ei phlaid yn cael ei chynnal fis nesaf.

Bydd ei chais i fod yn Brif Weinidog yn cael sêl bendith Senedd Yr Alban a’r Frenhines cyn i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn ffurfiol.

Cyhoeddodd Alex Salmond ei fwriad i ymddiswyddo yn dilyn canlyniad ‘Na’ yn refferendwm annibyniaeth ei wlad fis diwethaf.

Un o dasgau cyntaf Nicola Sturgeon fydd cymryd rhan yn nhrafodaethau Comisiwn Smith ar bwerau ychwanegol, ac mae hi wedi addo parhau â’r ymgyrch i sicrhau annibyniaeth.

Mae disgwyl i dri o aelodau’r blaid frwydro i fod yn Ddirprwy Brif Weinidog – y Gweinidog Trafnidiaeth a Chyn-filwyr Keith Brown, yr Ysgrifennydd Hyfforddiant, Ieuenctid a Menywod Angela Constance a dirprwy arweinydd y blaid yn San Steffan a llefarydd y Trysorlys Stewart Hosie.

Keith Brown yw’r ceffyl blaen ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i Angela Constance apelio at y degau o filoedd o aelodau newydd a ymunodd â’r blaid yn sgil y refferendwm.

Bydd y dirprwy arweinydd yn cael ei ddatgelu’n ffurfiol ar Dachwedd 14 yn ystod cynhadledd y blaid.