Fe fydd cynllun sgrinio am Ebola yn dechrau ym maes awyr Heathrow heddiw ar ôl i’r Ysgrifennydd Iechyd ddatgelu bod disgwyl achosion o’r firws yn y DU.
Dywedodd Jeremy Hunt y bydd y cynllun sgrinio yn cychwyn yn Heathrow cyn cael ei ehangu i Gatwick a gorsafoedd trenau Eurostar erbyn diwedd yr wythnos.
Mae mwy na 4,000 o bobl bellach wedi marw o Ebola yn Liberia, Guinea a Sierra Leone yng ngorllewin Affrica.
Dywedodd Jeremy Hunt wrth ASau ei fod yn “debygol” y bydd “llond llaw” o achosion o Ebola yn cael eu cadarnhau yn y DU yn ystod y tri mis nesaf.
Fe fydd y cynllun sgrinio – sy’n cynnwys mesur tymheredd a holi teithwyr – yn Heathrow, Gatwick a Eurostar yn sicrhau bod 89% o bobl sy’n teithio i’r DU o orllewin Affrica, yn cael eu profi meddai Jeremy Hunt.
Er nad oes teithiau uniongyrchol i’r DU o’r gwledydd hynny sydd wedi’u heffeithio gan Ebola, mae modd i deithwyr o’r gwledydd hynny gyrraedd y DU drwy ffyrdd anuniongyrchol.