Rhai o weithwyr iechyd yn Ysbyty Lerpwl yn streicio heddiw
Mae miloedd o weithwyr iechyd yn Lloegr yn cynnal streic heddiw i brotestio yn erbyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â rhoi codiad cyflog o 1% iddyn nhw.
Mae bydwragedd, nyrsys, parafeddygon, staff ambiwlans, a glanhawyr mewn ysbytai wedi bod yn picedu yn Lloegr ers 7 y bore ma mewn streic bedair awr.
Fe fydd gweithwyr iechyd yng ngogledd Iwerddon yn streicio pnawn ma.
Mae nifer o undebau llafur yn rhan o’r streic, y mwyaf o’i fath ers 30 mlynedd.
Bydd protest yn cael ei chynnal yn Llundain ddydd Sadwrn wedi ei threfnu gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC).
Mae’r streic yn ymwneud a 400,000 o staff y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi gweld eu cyflogau’n cael eu rhewi, neu yn is na lefel chwyddiant, ers i’r Glymblaid ddod i rym yn 2010.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt: “Rwy’n cydnabod bod staff rheng flaen yn gwneud gwaith ardderchog yn y GIG.
“Mae 60% o staff y GIG yn cael codiad cyflog o 3% yn awtomatig ond ni allen ni fforddio i roi codiad cyflog o 1% ar ben y 3% i’r rhai sydd eisoes yn cael hynny.”
Ychwanegodd y byddai’n rhaid diswyddo staff petai’r codiad cyflog yn cael ei weithredu’n llawn.
‘Cyflog teg’
Wrth ymateb i ragolygon y bydd gweithredu tebyg yn digwydd yng Nghymru, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones AC:
“Mae gweithwyr y GIG, fel llawer o weithwyr yn sectorau cyhoeddus a phreifat nad ydynt yn derbyn cyflogau enfawr, wedi aberthu llawer o ran tâl ac amodau ar hyd y cyfnod wedi’r dirwasgiad.
“Maen nhw’n dweud wrthym fod adferiad yn digwydd ac yn wir, rydym yn gweld fod rhai sectorau yn y gweithlu – sector ariannol Llundain – yn ôl ar y lefelau yr oeddent cyn y dirwasgiad, ac y mae bonysau bancwyr ar lefelau anhygoel o uchel.
“Os achubwyd y bancwyr, rhaid yn awr achub y bobl. Mae gweithwyr rheng flaen y GIG dan bwysau enfawr ac wedi bod yn hynod anhunanol mewn cyfnod pan fu’n rhaid cywasgu ar bopeth. Dyw hi ond yn deg i i gleifion, staff a’n cymunedau iddynt gael cyflog teg am ddiwrnod o waith, ac y mae Plaid Cymru yn cefnogi eu hymdrechion i gael hyn.”