Ymarferiad Ebola wythnos ddiwethaf
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt wedi cyhoeddi y bydd galwadau i linell ffôn 111 y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn cael eu sgrinio am achosion posib o Ebola.

Fe fydd staff y gwasanaeth yn holi unrhyw un sydd â symptomau posib o’r haint am unrhyw deithiau diweddar i orllewin Affrica, lle mae mwy na 4,000 o bobl bellach wedi marw o Ebola.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r Unol Daleithiau gyhoeddi ail achos o Ebola ar ôl i weithiwr iechyd mewn ysbyty yn Tecsas gael ei heintio. Roedd y gweithiwr wedi bod mewn cysylltiad â Thomas Eric Duncan, fu farw o’r firws ddydd Mercher diwethaf.

Dywedodd Jeremy Hunt bod gan y DU “system gadarn” mewn lle ar gyfer delio gydag unrhyw achosion o Ebola ond ychwanegodd bod angen adolygu mesurau pellach, a bod camau ychwanegol yn cael eu cymryd gan GIG 111.

Fe fydd staff 111 yn cyfeirio unrhyw un sydd â symptomau o Ebola, ac sydd wedi bod i orllewin Affrica yn ddiweddar, i’r gwasanaethau brys lleol lle bydd staff ambiwlans mewn gwisgoedd arbennig i’w diogelu, yn eu hasesu.

Mae sgrinio ychwanegol am y firws wedi cael eu cyflwyno ym meysydd awyr Heathrow a Gatwick a gorsafoedd rheilffordd Eurostar.