Gallai UKIP gipio 128 o seddi yn San Steffan medd sylwebwyr yn dilyn canlyniadau arolwg sy’n rhoi cefnogaeth y blaid ar 25%.
Yn ôl arolwg Survation ar gyfer y Mail on Sunday mae’r gefnogaeth i UKIP wedi cynyddu’n arbennig yn ne-ddwyrain Lloegr, y tu allan i Lundain, gan fygwth rhai o gadarnleoedd y Ceidwadwyr.
Yn ôl y pôl piniwn mae Llafur a’r Toriaid yn gyfartal ar 31%, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 8%. Dywed arbenigwyr y byddai’r canlyniadau yn trosi i 253 o seddi i Lafur, 187 i’r Ceidwadwyr, 128 i UKIP, 11 yn unig i’r Democratiad Rhyddfrydol, a 71 i bleidiau eraill megis Plaid Cymru, yr SNP, y Blaid Werdd ac ymgeiswyr annibynnol.
Nerth ar lawr gwlad ?
Yn ôl y sywebydd etholiadol John Curtice o Brifysgol Strathclyde mae’r pôl yn awgrymu bod tro ar fyd o ran llwyddiant etholiadol UKIP, a enillodd 3% yn unig yn 2010.
“Os yw UKIP am drosi pleidleisiau i mewn i seddi yn Nhŷ’r Cyffredin dan system gyntaf-i’r-felin Prydain, rhaid iddyn nhw adeiladu cadarnleoedd ar lawr gwlad. Mae pôl heddiw’n awgrymu eu bod nhw o bosib wedi dechrau gwneud hynny.”
Dywed John Curtice wrth y Mail on Sunday y gallai UKIP gipio 102 o seddi oddi wrth y Ceidwadwyr pe bai’r twf ym mhoblogaeth y blaid yn ne-ddwyrain Lloegr yn parhau tan yr Etholiad Cyffredinol.
“Byddai Mr Farage yn gwireddu ei ddyhead o ddal cydbwysedd grym yn San Steffan,” meddai.
Enillodd UKIP ei sedd gyntaf yn San Steffan yn is-etholiad Clacton wythnos ddiwethaf, gyda’r cyn-AS Ceidwadol Douglas Carswell yn cael mwyafrif o 12,404 dros ei wrthwynebydd agosaf.
Ond mae pôl ar gyfer papur yr Observer heddiw’n llai calonogol i’r blaid ewrosgeptig. Yn ôl pôl Opinium saif y gefnogaeth i UKIP ar 17%, gyda Llafur ar y blaen ar 35%, y Ceidwadwyr ar 28%, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 9%.