Ymarferiad gan staff meddygol y fyddin wythnos ddiwethaf
Fe fydd ymarferiad yn cael ei gynnal heddiw er mwyn gweld sut y byddai’r awdurdodau’n delio gydag achosion o Ebola.
Mae disgwyl i weinidogion Llywodraeth Prydain ymunogyda a dwsinau o weithwyr meddygol o ysbytai, y gwasanaeth ambiwlans ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr am ymarferiad wyth awr mewn lleoliadau ar draws y wlad.
Bydd actorion yn cymryd rhan yn yr ymarferiad gan gymryd arnyn nhw bod ganddyn nhw symptomau o’r firws er mwyn profi ymateb y gwasanaethau brys, tra bydd staff mewn gwisgoedd arbenigol i’w diogelu.
Mae disgwyl hefyd i’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt gadeirio “cyfarfod” o bwyllgor brys y Llywodraeth, Cobra, fel rhan o’r ymarferiad.
David Cameron sydd wedi galw am yr ymarferiad fel rhan o gynlluniau’r DU i ddelio ag achosion posib o Ebola, sydd bellach wedi lladd mwy na 4,000 o bobl yng ngorllewin Affrica.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r Prif Weinidog amddiffyn ei benderfyniad i gynnal sgrinio ychwanegol am y firws ym meysydd awyr Heathrow a Gatwick a gorsafoedd trenau Eurostar, gan ddweud fod y penderfyniad wedi’i wneud yn dilyn “cyngor meddygol”.
‘Gwastraff amser’
Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â’r broses sgrinio gyda llefarydd ar ran Gatwick yn dweud nad yw’r maes awyr wedi derbyn unrhyw gyfarwyddiadau ynglŷn â sut y dylai’r sgrinio gael ei gynnal.
Mae arbenigwyr iechyd hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad gan ei ddisgrifio fel “gwastraff llwyr o amser” tra bod yr AS Llafur Keith Vaz wedi dweud bod y diffyg gwybodaeth benodol sydd ar gael ynglŷn â’r sgrinio yn “shambls”.
Nid yw’r Adran Iechyd wedi datgelu ym mha leoliadau y bydd yr ymarferiadau yn cael eu cynnal heddiw.